Effaith y tswnami ar faes awyr Sendai, canolbwynt y daeargryn
Union wythnos ers i’r daeargryn daro gogledd-ddwyrain Japan, fe ddaeth yn glir bod 16,000 o bobol wedi cael eu lladd yn y trychineb.
Mae mwy na hanner miliwn o bobol yn ddigartre’ hefyd oherwydd y daeargryn ei hun a’r tswnami anferth a ddaeth yn ei sgil.
Yn ôl elusennau, mae yna argyfwng dyngarol yn yr ardal, gydag eira’n gwneud pethau’n waeth.
Yn y cyfamser, mae mwg yn parhau i godi o atomfa yn yr ardal, lle mae gweithwyr brys yn ceisio atal ymbelydredd ar ôl i bedwar o adweithyddion gael eu difrodi.
Mae’r tîmau yn Fukushima Dai-ichi yn parhau i geisio ailgysylltu cyflenwad trydan i’r systemau oeri a chwistrellu mwy o ddŵr ar yr adweithyddion.
Mae pedwar o’r chwech adweithydd yn Fukushima wedi bod ar dân neu wedi cael eu difrodi gan ffrwydradau ers y tswnami.
Fe fydd y Swyddfa Dramor yn dechrau âr y gwaith o gludo dinasyddion Prydeinig o Japan heno.
Peryg o orboethi
Mae arbenigwyr yn credu bod lefelau dŵr yn adweithydd rhif tri yn beryglus o isel ar hyn o bryd a’r pryder yw y bydd y ffyn tanwydd yn gorboethi gan ollwng rhagor o ymbelydredd.
“Delio ag uned 3 yw’r flaenoriaeth,” meddai Prif Ysgrifennydd Cabinet Japan, Yukio Edano wrth egluro fod Tokyo yn galw ar Lywodraeth yr Unol Daleithiau am gymorth ac yn “trafod y manylion” ar hyn o bryd.
Er hynny, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi rhoi sicrwydd fod y risg o ymbelydredd yn parhau’n lleol iawn ac nad oes bygythiad i rannau eraill o Asia ar hyn o bryd.
Yn ôl pennaeth y Sefydliad yn China, does dim tystiolaeth bod ymbelydredd yn lledu y tu hwnt i’r ardal sydd wedi ei chlirio o amgylch yr atomfa.