Siambr y Cyngor Diogelwch (Patrick Gruban CCA 2.0)
Mae lluoedd awyr gwledydd Prydain yn paratoi i gymryd rhan mewn ymosodiadau i greu ardal dim-hedfan yn Libya.

Ond mae’r trefniadau wedi cael eu drysu rywfaint wrth i’r Llywodraeth yn Libya gyhoeddi eu bod yn rhoi’r gorau am y tro i ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr yno.

Neithiwr fe bleidleisiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o blaid defnyddio pob grym angenrheidiol i atal y Cyrnol Gaddafi rhag ymosod ar wrthryfelwyr yn y wlad.

Fe allai hynny gynnwys ymosodiadau o’r môr ac o’r awyr, ond mae’n dweud yn benodol na fydd yn cynnwys milwyr ar y tir.

Mae rhan o’r penderfyniad hefyd yn awgrymu y bydd hi’n bosib rhoi arfau i’r gwrthryfelwyr sydd bellach wedi eu cyfyngu’n bennaf i ddinas fawr Benghazi a’r ardal o’i chwmpas hi yn nwyrain Libya.

Pump yn gwrthod cefnogi

Roedd deg o’r 15 gwlad ar y Cyngor Diogelwch wedi cefnogi’r cynnig a ddaeth gan y Deyrnas Unedig, Ffrainc a Libanus ond roedd pump wedi atal eu pleidlais – China, Rwsia, Yr Almaen, Brasil ac India.

Y ffactor allweddol yn y penderfyniad oedd newid meddwl ar ran yr Unol Daleithiau – o wrthwynebu creu ardal dim-hedfan, mae disgwyl bellach mai Washington fydd yn arwain yr ymosodiadau.

Ond dyw hi ddim yn glir pryd y bydd y rheiny’n dechrau. Roedd Ffrainc wedi sôn am ymosod “o fewn oriau” ond ffynonellau yn yr Unol Daleithiau’n dweud “dydd Sul neu ddydd Llun”.

Ar hyn o bryd mae lluoedd y Cyrnol Gaddafi a lluoedd y Llywodraeth yn paratoi i ymosod ar Benghazi, gyda’r Arlywydd yn addo na fyddai dim trugaredd at y gwrthryfelwyr. Yn ôl rhai adroddiadau, roedd y fyddin o fewn tuag 80km i Benghazi erbyn diwedd y dydd ddoe.

Ciaidd

Cyn y cadoediad, fe ddywedodd llysgennad yr Unol Daleithiau yn y Cenhedloedd Unedig, Susan Rice, bod y Cyrnol Gaddafi’n paratoi i ymosod ar ddinas o filiwn o bobol ac y byddai’r ymosodiad yn un “ciaidd”.

Roedd penderfyniad y Cenhedloedd Unedig yn sôn am ymosod ar bobol gyffredin a gweithredoedd a allai fod yn droseddau’n erbyn dynoliaeth.

Mae gan nifer o wledydd y Gorllewin gryfder milwrol yn agos at Libya – gwledydd Prydain yng Nghyprus er enghraifft – ac, ar ôl iddyn nhwthau gefnogi’r alwad am ardal dim-hedfan, mae disgwyl y bydd gwledydd y Cynghrair Arabaidd yn ymuno yn yr ymosodiadau.

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Hillary Clinton, y byddai hynny’n cynnwys bomio targedau milwrol yn Libya.