Cig oen go iawn (Tim P CCA 2.0)
Mae mam o dde Cymru wedi galw’r heddlu ar ôl darganfod tatŵ ar ben-ôl ei merch 16 oed. Roedd yn cynnwys y geiriau “100% Welsh Lamb”.

Roedd Renee Brady, 38, o Gaerdydd yn gandryll pan welodd bod ei merch wedi cael y tatŵ, a hithau dan oed a heb ganiatad rhiant.

Llwyddodd Levi-Paige, sy’n 16, i guddio’r tatŵ rhag ei mam am dros wythnos. Ond ddaeth y cyfan i’r golwg pan ddisgynnodd oddi ar ei cheffyl yn ystod gwers farchogaeth dros y penwythnos.

Fe ffoniodd Renee Brady’r heddlu ar unwaith, gan gyhuddo’r parlwr tatŵio, Tattooland, o fethu â sicrhau bod ei merch dros 18 cyn ei thatŵio.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i’r gwyn yn erbyn siop datŵs yn ardal Glanyrafon.

‘Candryll’

“Dw i’n gandryll bod rhywun wedi brandio fy merch i am oes,” meddai’r fam wrth bapur y South Wales Echo. “A hynny mewn man hollol anaddas.”

Mae’r ddeddf Tatŵio Plant Dan Oed 1969 yn nodi ei bod hi’n drosedd rhoi tatŵ i berson dan 18 oed.

Y gosb am dorri’r gyfraith am y tro cynta’ yw dirwy o £50.