Yr atomfa
Mae pennaeth asiantaeth atomig y Cenhedloedd Unedig yn teithio i Tokyo i asesu’r argyfwng niwclear yn atomfa Fukushima Dai-ichi.

Mae’r pryderon yn cynyddu bod yr awdurdodau’n methu â rheoli’r trafferthion mewn adweithyddion a gafodd eu taro gan y daeargryn a’r tswnami a drawodd arfordir gogledd-ddwyrain Japan.

Fe ddywedodd Yukiya Amano o’r Cenhedloedd Unedig bod y “gymuned ryngwladol yn gefnogol o Japan”.

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol yr asiantaeth yn bwriadu cyfarfod gydag aelodau o lywodraeth Japan ac eraill sydd yng nghlwm a’r ymdrechion i oeri’r tanwydd wraniwm yn yr atomfa.

‘Sefyllfa ddifrifol’

Mae llefarydd ar ran yr orsaf wedi dweud eu bod nhw’n delio gyda sefyllfa “ddifrifol” gyda lefelau ymbelydredd yn parhau’n uchel.

Yn y cyfamser, mae’r timau argyfwng lleol wedi bod yn defnyddio hofrenyddion milwrol i chwistrellu dŵr môr i geisio oeri rhai o’r chwech adweithydd yn y gwaith niwclear.

Mae ymbelydredd wedi bod yn gollwng o’r atomfa a ffrwydradau a thanau wedi bod yn rhai o’r adweithyddion.