Peth o'r distryw yn Japan
Mae tîm o achubwyr o ganolbarth a gorllewin Cymru ar eu ffordd yn ôl o Japan ar ôl methu â dod o hyd i ragor o bobol sy’n fyw yn rwbel y daeargryn a’r tswnami.
Roedd y saith aelod o Wasanaeth Achub a Thân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi bod yn gweithio mewn ardal o’r enw Kamaisha a oedd wedi diodde’ distryw ofnadwy.
Gydag eira a rhew’n creu trafferthion, doedd y dynion a’r pedwar ci achub oedd gyda nhw, ddim wedi dod o hyd i neb ac roedd y gobeithion o wneud hynny’n prinhau.
Fe fydd gweddill yr achubwyr o wledydd Prydain hefyd yn dod yn ôl. Roedden nhw mynd allan yn fuan ar ôl y ddau drychineb.
Oherwydd ansicrwydd ynglŷn ag awyrennau, does dim sicrwydd eto pryd y bydd y saith yn cyrraedd yn ôl.