Profi plentyn am ymbelydredd (Llun AP Photo/Wally Santana)
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Japan wedi dweud fod pryder newydd am un o orsafoedd niwclear y wlad.

Cafodd gorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi yng ngogledd-ddwyrain y wlad ei ddifrodi gan y daeargryn 8.9 ar y raddfa Richter ddydd Gwener.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Japan, Yukio Edano, y gallai rhan o Uned 3 yr orsaf bŵer niwclear ffrwydro.

Dyna fyddai’r ail ffrwydrad mewn deuddydd yn yr orsaf niwclear, ar ôl i Uned 1 ffrwydro ddoe. Mae rheolwyr yr orsaf yn ceisio oeri dau adweithydd niwclear drwy chwistrellu dŵr o’r môr i mewn iddyn nhw.

Mae 170,000 o bobol eisoes wedi eu symud o’r ardal, ond dywedodd Yukio Edano nad oes digon o ymbelydredd wedi ei ryddhau hyd yma i fod o ddrwg i iechyd unrhyw un.

“Dydw i ddim eisiau codi ofn ar bobol, ond mae’n bosib y bydd yna ffrwydrad arall,” meddai.

“Os oes yna ffrwydrad, mae’n annhebygol y bydd iechyd y cyhoedd yn dioddef.”

Dywedodd fod problemau mecanyddol yn oedi’r broses o chwistrellu dŵr i mewn i’r adweithydd niwclear.

Roedd hynny’n gwneud ffrwydrad arall yn fwy tebygol, meddai.