A55
Mae dyn oedd wedi ei arestio mewn cysylltiad â pum achos o daflu cerrig ar geir wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu yn ymchwilio ymhellach.
Cadarnhaodd yr heddlu ddoe fod dyn o ardal Bangor wedi ei arestio ar amheuaeth o daflu pethau o’r bont dros yr A55 yng Nghaerhun.
Daw’r arestiad ar ôl i’r heddlu ymchwilio i bum achos o’r fath dros yr wythnos diwethaf.
Dioddefodd bachgen pump oed, Cian Thomas, of Bethesda, anafiadau difrifol i’w wyneb pan laniodd carreg ar gar ei dad.