Mae’r newyddiadurwraig o Rwsia, Tatyana Felgenhauer wedi cael ei symud i uned gofal dwys yn dilyn llawdriniaeth ar ôl iddi gael ei thrywanu yn ei gwddw.

Mae hi’n gweithio i’r unig orsaf radio newyddion annibynnol yn y wlad, Ekho Moskvy.

Ysgrifennodd hi lythyr o’i gwely yn yr ysbyty yn diolch i’w chydweithwyr am eu cefnogaeth yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd hi ei bod hi “wedi cysgu’n dda am y tro cyntaf” ers 16 o flynyddoedd yn gweithio i’r cwmni. Roedd meddygon wedi ei rhoi hi mewn coma am gyfnod yn dilyn y digwyddiad.

Roedd yr ymosodwr wedi chwistrellu nwy i wyneb swyddog diogelwch cyn rhedeg allan o’r adeilad.

Mae’r heddlu’n amau Boris Grits, dyn 48 oed sydd â phasbort Rwsiaidd-Israeli, o fod yn gyfrifol. Pan gafodd ei holi, dywedodd ei fod e “mewn cyswllt telepathig” â’r gyflwynwraig ers pum mlynedd.

Cafodd ei arestio ddydd Mawrth, a’i gadw yn y ddalfa am ddeufis wrth i’r ymchwiliad barhau.

Ymosodiadau tebyg

Mae gorsaf Ekho Moskvy o dan reolaeth cwmni nwy Gazprom ac mae ei rhaglenni’n aml yn feirniadol o’r llywodraeth.

Yn y gorffennol, mae nifer o staff y cwmni wedi cael bygythiadau i’w bywydau, ac fe fu’n rhaid i gyflwynwraig arall, Yulia Latynina ffoi ym mis Medi yn dilyn ymosodiad ar ei char.

Mae hi’n dweud bod yr ymosodiad diweddaraf yn dilyn patrwm yr ymosodiadau blaenorol.

Ond mae llywodraeth Rwsia a’r Arlywydd Vladimir Putin yn gwadu bod cyswllt rhwng y digwyddiadau, wrth i Putin ddweud mai “gweithred gwallgofddyn” oedd hi.