Baner brotest yng Nghatalwnia (Llun: Golwg360)
Ar drothwy pleidlais a fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener dros gynlluniau i gipio pŵer oddi wrth Gatalwnia, mae newyddiadurwr Catalanaidd yn rhagweld “arddangosfa fawr o anufudd-dod.”

Yn ôl rheolwr gwefan VilaWeb, Vicent Partal, mae Aelodau Seneddol yn sicr o bleidleisio o blaid Erthygl 155 – y ddogfen fydd yn galluogi Sbaen i gymryd rheolaeth dros sefydliadau Catalwnia.

Ond, mae’n mynnu bod yr hyn fydd yn cael ei ganiatáu ar ddiwedd yr wythnos yn “anghyfreithlon” ac yn mynd llawer pellach na’r hyn sy’n cael ei ganiatáu gan Erthygl 155.

Yn sgil tanio’r erthygl, mae Vicent Partal yn disgwyl protestio mawr ar bob lefel cymdeithas, o’r strydoedd  i’r swyddfeydd  – mae’n tybio bydd tua 800 o gynghorau trefol yn cymryd rhan yn yr “anufudd-dod” sifil.

“Bydd hi’n arddangosfa fawr o anufudd-dod, yn y strydoedd ac yn y swyddfeydd ym mhob man,” meddai wrth golwg360.

“Coup d’etat llwyr yw hyn, gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd. Byddwn ni fel gwlad yn gwrthwynebu cymaint ag y gallwn – dw i ddim yn siŵr faint y gallwn wrthwynebu. Mae’n mynd i fod yn frwydr galed.”

A fydd trais?

Mae’r newyddiadurwr yn addo na fydd ildio ac yn ffyddiog na fydd pobol Catalwnia yn gyfrifol am unrhyw drais, ond mae’n cydnabod bod y wlad yn llamu mewn i “ddyfroedd dieithr”.

“Nid yw trais ar feddwl pobol Catalwnia,” meddai. “Fel y gwelsoch ar ddiwrnod y refferendwm, hyd yn oed pan gaiff grym ei ddefnyddio, ni fydd yn tanio trais ar y strydoedd. Wrth gwrs, os ydyn  nhw’n defnyddio’r grym gwaethaf y gallan nhw, wnawn ni wrthsefyll mewn modd penodol.

“Cawn weld … faint o drais gall Sbaen ei ddefnyddio, faint bydd barn gyhoeddus Ewropeaidd yn caniatáu unbennaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Dyma’r cwestiwn – rydym mewn dyfroedd dieithr. Mae un peth yn sicr, ni fydd y wlad yma yn ildio.”

Datgan annibyniaeth

Un peth sy’n sicr, yn ôl Vicent Partal, yw y bydd Catalwnia yn datgan annibyniaeth yn swyddogol ar ddiwedd yr wythnos.

Â’r Llywodraeth Gatalanaidd yn ymgynnull ddydd Iau a dydd Gwener mae’r newyddiadurwr yn nodi ei fod yn “sicr” y bydd Catalwnia’n wlad annibynnol cyn daw’r penwythnos.