James Stewart Jones (Llun Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi croesawu penderfyniad llys i garcharu dyn am chwe blynedd am ddefnyddio app cyfrifiadurol i hudo merched dan oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol.

Ac maen nhw wedi rhybuddio rhieni i fod yn ymwybodol o’r hyn y mae eu plant yn ei wneud ar-;lein ac i siarad gyda nhw am ddiogelwch.

Fe gafodd James Stewart Jones, 40 oed, o Heol Beulah, Rhiwbeina, ei ddedfrydu am gyfanswm o ddeg droseddau, gan gynnwys hudo plant 13 oed ac 15 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol a meddu ar luniau ffiaidd.

Annog ac wedyn bygwth

Fe ddatgelodd yr heddlu fod y dyn wedi defnyddio app o’r enw Omegle – fforwm ar gyfer pobol tros 18 oed – er mwyn annog y plant ac wedyn i’w bygwth nhw y byddai’n datgelu’r deunydd.

Mae’r wefan yn cysylltu pobol i ‘sgwrsio’ ar lein trwy gymharu eu diddordebau ac roedd James Stewart Jones wedi perswadio’r plant i ddewis pynciau penodol er mwyn cynyddu’r tebygrwydd o ‘gyfarfod’ eto.

Roedd un o’r plant yn yr Unol Daleithiau a’r llall yng ngwledydd Prydain.

‘Rheibus’

“Roedd James Jones yn droseddwr rheibus a ddefnyddiodd yr app Omegle i ddenu plant dan oed i gymryd rhan mewn llifddarlledu byw ar-lein er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun,” meddai Mike Yeo o Heddlu De Cymru.

Fe ddywedodd y dylai rhieni gadw llygad ar ymddygiad ar-lein plant, fel y bydden nhw ar ymddygiad fel arall, a bod angen defnyddio peth o’r offer diogelwch sydd ar gyfrifiaduron.