Mae’r heddlu ym Munich yn chwilio am ddyn yn ei 40au ar ôl i bedwar o bobol gael eu hanafu â chyllell.
Dywedodd yr heddlu na chafodd unrhyw un anafiadau difrifol.
Cawson nhw eu galw i ardal Rosenheimer Platz y ddinas, ac roedd rhybudd y bore ma i bobol gadw draw o’r ardal.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n defnyddio’u holl adnoddau i ddod o hyd i’r dyn.
Ond dydyn nhw ddim yn gwybod eto beth oedd wedi ei gymell.