Mae pennaf arweinydd Iran wedi erfyn ar Ewrop i leisio cefnogaeth gryfach tuag at ddêl niwclear y wlad, wedi i’r Unol Daleithiau gefnu arni.
Ers arwyddo’r ddêl mae’r sancsiynau yn erbyn Iran wedi lleihau, ac mae nifer o fusnesau Ewropeaidd wedi buddsoddi yn y wlad yn sgil hyn.
Gobaith Ayatollah Ali Khamenei yw rhoi pwysau ar arweinyddion Ewropeaidd i gefnogi’r ddêl trwy fanteisio ar awydd busnesau i ddiogelu eu cyfalaf yno.
Mae Prydain, Tsieina, Ffrainc, yr Almaen, Rwsia a’r Undeb Ewropeaidd wedi annog Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i beidio â chefnu ar y ddêl.
“Mae Llywodraethau Ewrop wedi amddiffyn y ddêl ac wedi condemnio sylwadau Arlywydd yr Unol Daleithiau,” meddai arweinydd Iran. “Croesawn hyn ond nid yw’n ddigon.”