Mae Prif Weinidog Sbaen wedi rhybuddio arweinyddion Catalwnia i dynnu eu cais am annibyniaeth yn ôl.
Fe roddodd Mariano Rajoy tan yfory (dydd Iau) i Arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont, amlinellu p’un ai yw am barhau gyda’i gynlluniau am annibyniaeth neu beidio.
Mae’r llywodraeth ganolog ym Madrid wedi dweud y byddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Catalwnia os bydd ei harweinwyr yn dewis mynd am annibyniaeth, gan fygwth tynnu pwerau oddi ar y senedd ddatganoledig yno.
Wrth annerch y senedd ym Madrid, galwodd y Prif Weinidog ar Carles Puigdemont i “ymddwyn yn synhwyrol”, gan feddwl am fuddiannau pobl Sbaen a Chatalwnia fel ei gilydd.
Protest yn y Senedd
Yn ystod yr anerchiad hefyd, fe wnaeth tua hanner cant o aelodau seneddol Sbaen a Chatalwnia ddal posteri i fyny, gan fynnu y dylai dau o arweinwyr mudiadau annibyniaeth Catalwnia gael eu rhyddhau o’r carchar.
Roedd y brotest hon yn rhan o brotestidau ehangach sy’n digwydd ledled Catalwnia ei hun wedi i Jordi Sanchez a Jordi Cuixart, arweinwyr y Catalan National Assembly a Omnium Cultural, gael eu carcharu ddydd Llun am achosion o danseilio awdurdod y wladwriaeth.
Mae’r digwyddiadau hyn i gyd yn rhan o’r tensiwn cynyddol rhwng arweinwyr Sbaen a Chatalwnia ers Hydref 1, pan fynegodd 90% o bleidleiswyr Catalwnia eu dymuniad i adael Sbaen mewn refferendwm.