Mae’r cynhyrchydd ffilm Harvey Weinstein wedi cael ei wahardd o sefydliad yr Academi, sy’n gyfrifol am ddyfarnu gwobrau’r Oscars, yn dilyn honiadau gan nifer o actorion ei fod e wedi ymosod yn rhywiol arnyn nhw.

Lysette Anthony yw’r diweddaraf i ddweud ei bod hi wedi rhoi gwybod i Heddlu Llundain ei fod e wedi ymosod arni, yn ei chartref yn Llundain yn y 1980au.

Roedd Heddlu Llundain wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn cwyn, ond heb enwi Harvey Weinstein.

Roedd y ddau wedi cyfarfod pan oedden nhw’n cydweithio ar y ffilm Krull yn 1982, ac fe ddywedodd Lysette Anthony ei bod hi’n teimlo “embaras” yn dilyn y digwyddiad.

Mae e wedi gwadu’r holl honiadau.

Ond ddydd Sadwrn, fe bleidleisiodd aelodau’r Academi, sy’n cynnwys nifer o actorion amlycaf Hollywood, o blaid ei wahardd o’u plith yn dilyn cyfarfod brys i drafod yr helynt.

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi gwneud honiadau yn ei erbyn mae Angelina Jolie a Gwyneth Paltrow.

‘Dyddiau anwybodaeth ar ben’

Mewn datganiad, dywedodd aelodau’r Academi fod “ymhell dros y ddau draean angenrheidiol” wedi pleidleisio o blaid y gwaharddiad.

Dyweddd yr Academi fod “dyddiau anwybodaeth yn ein diwydiant ar ben”.

Mae BAFTA eisoes wedi ei wahardd.

Mae Urdd yr Awduron ac Urdd y Cynhyrchwyr yn yr Unol Daleithiau hefyd yn ystyried ei wahardd.