Pentrepella gan Kyffin Williams
Mi fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfa arbennig i nodi canmlwyddiant geni’r artist Kyffin Williams.
Bydd yr arddangosfa’r flwyddyn nesaf yn fodd i “[g]offáu canmlwyddiant geni un o artistiaid mwyaf nodedig a diffiniol Cymru’r ugeinfed ganrif”.
Mae’n debyg bod cysylltiad yr artist o Fôn â’r Llyfrgell yn mynd yn ôl mor bell â 1947, pan brynodd y Llyfrgell un o baentiadau’r artist ifanc am y tro cyntaf.
A thrwy gyfrwng pryniannau, rhoddion ac arddangosfeydd dros y blynyddoedd wedyn, cyrhaeddodd y berthynas hon benllanw pan dderbyniodd y Llyfrgell y rhan helaethaf o’i ystâd yn 2006 wedi iddo farw.
Adnabod y dyn “tu ôl i’r ffrâm”
Bydd yr arddangosfa yn gwneud defnydd helaeth o’r archif hwn, sy’n cynnwys gweithiau celf, llythyron a dyddiaduron, ac wrth gyfeirio at hyn, dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol y bydd y defnydd o eiriau’r artist ei hun yn fodd i “ddehongli ei greadigaethau”.
“Byddwn yn edrych ‘tu ôl i’r ffrâm’ i ddysgu am ei dechneg, am yr hyn â’i ysbrydolodd a sut wnaeth ei bersonoliaeth, cymhlethdod ei gymeriad a’i gymeriad a’i iechyd ddylanwadu ar ei fywyd a’i waith.”
Bydd yr arddangosfa yn cael ei lansio fis Chwefror nesaf.