Llosgfynydd Shinmoedake (Llun Tomoaki Ito/Kyodo News/AP)
Mae llosgfynydd yn ne-orllewin Japan wedi ffrwydro am y tro cynta’ mewn chwe blynedd, gan wasgaru llwch dros ddinasoedd a threfi cyfagos.
Mae’r sianel TBS wedi bod yn dangos lluniau o blant yn mynd i’r ysgol yn gwisgo masgiau a helmedau, wrth droed y llosgfynydd Shinmoedake.
Mae trigolion lleol hefyd wedi bod yn disgrifio’r synau sy’n dod o’r mynydd ar y ffin rhwng taleithiau Kagoshima a Miyazaki.
Erbyn heddiw, mae Asiantaeth Dywydd Japan yn dweud fod y cwmwl mwg sy’n codi o’r mynydd yn estyn 5,600t troedfedd (1,700m) i’r awyr, ac maen nhw’n rhybuddio pobol i beidio â mynd yn rhy agos ato.
Mae’r ardal seismig yn ardal y Môr Tawel sy’n cael ei alw ‘Y Cylch Tân’ yn cynnwys llosgfynyddoedd yn Japan yn ogystal â dau yn Indonesia a Vanatu sydd wedi ffrwydro yn ystod yr wythnosau diwethaf.