Mae’r cynhyrchydd ffilmiau o America, Harvey Weinstein, wedi cael ei ddiswyddo o’i gwmni ei hun wedi i “wybodaeth newydd” ddod i’r fei mewn ymchwiliad i droseddau rhyw yn ei erbyn.
Mae Bwrdd Cynrychiolwyr Cwmni Weinstein wedi cyhoeddi fod ei gyflogaeth wedi dod i ben o ganlyniad i “wybodaeth newydd ynglŷn â chamymddygiad Harvey Weinstein sydd wedi dod i’r amlwg dros y dyddiau diwethaf.”
Yn ôl y New York Times, mae’r honiadau o aflonyddu rhywiol yn cynnwys rhai gan yr actoresau Ashley Judd a Rose McGowan.
Mae Harvey Weinstein wedi ymddiheuro gan ddweud fod ei ymddygiad yn y gorffennol “wedi achosi llawer o boen.”
Mi sefydlodd Harvey Weinstein a’i frawd, Bob Weinstein, gwmni Miramax yn 1979 cyn ei werthu i Disney yn 1993 gan sefydlu wedyn cwmni Weinstein yn 2005.