Mae dau blismon ac arweinwyr grwpiau o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn destun ymchwiliad i gyhuddiadau o annog gwrthryfel.
Fe fyddan nhw’n cael eu holi gan Lys Cenedlaethol Sbaen.
Mae’r llys wedi cadarnhau y byddan nhw’n cael eu holi ddydd Gwener am eu rhan mewn protestiadau yn ninas Barcelona ar Fedi 21 a 22, pan gafodd swyddogion llywodraeth Catalwnia eu harestio yn dilyn cyrchoedd ar eu swyddfeydd.
Yn ôl yr awdurdodau, roedd y protestiadau wedi tarfu ar waith yr heddlu, wrth i’w cerbydau gael eu dinistrio yng nghanol y brwydro.
Ymhlith y pedwar sy’n cael eu hamau mae prif swyddog yr heddlu Josep Lluis Trapero a phennaeth Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia, Jordi Sanchez.