Mae Brenin Sbaen wedi cyhuddo awdurdodau Catalwnia o dorri’r gyfraith yn fwriadol ac o “ymddwyn yn anghyfrifol.”
Wrth annerch y genedl ar y teledu nos Fawrth (Hydref 3), dywedodd Brenin Felipe VI bod “cymdeithas Gatalanaidd bellach yn rhanedig” a bod “cydfodolaeth wedi’i thanseilio”.
Roedd yn traddodi’i sylwadau wrth i filoedd o bobol brotestio yn Barcelona yn erbyn gweithredoedd Llywodraeth Sbaen yn ystod refferendwm annibyniaeth ddydd Sul (Hydref 1).
Mae Llywodraeth Geidwadol Sbaen wedi dweud y byddan nhw’n ymateb i’r sefyllfa yng Nghatalwnia “â’r holl fesurau angenrheidiol”.
 thrafodaethau ar droed ym Madrid i benderfynu ar yr ymateb, mae’n bosib bydd y llywodraeth yn dewis diddymu’r ychydig bŵer sydd gyda Chatalwnia yn barod.