Mae Arlywydd Catalwnia wedi hawlio buddugoliaeth mewn refferendwm dros annibyniaeth wnaeth achosi cynnwrf ac anrhefn yn y rhanbarth brynhawn ddoe (Hydref 1).

Cafodd dros 800 o bobol eu hanafu ddydd Sul wrth i swyddogion yr heddlu ymosod ar brotestwyr heddychlon a dinasyddion oedd wedi ymgynnull i fwrw eu pleidlais.

Pan ddaeth y bleidleisio i ben, cyhoeddodd yr Arlywydd  Carles Puigdemont bod Catalwnia wedi “ennill yr hawl i fod yn wladwriaeth annibynnol” gan fynnu y byddai’n datgan annibyniaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Catalwnia bod 90% o’r bobol wnaeth bleidleisio, wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth – roedd 42.3% o’r boblogaeth wedi bwrw pleidlais.

Nid yw’n glir beth fydd yn digwydd os yw swyddogion Catalwnia yn datgan annibyniaeth – byddai’r fath gam yn golygu y byddai Sbaen yn colli un o’i rhanbarthau mwyaf cyfoethog.

Trais

Mae fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos heddlu Sbaen yn llusgo pobol allan o orsafoedd pleidleisio ac yn sathru ar brotestwyr.

Roedd yr heddlu yn gweithredu yn sgil gorchymyn gan farnwr i rwystro’r refferendwm – mae Llywodraeth Sbaen eisoes wedi datgan bod y bleidlais yn anghyfreithlon ac yn anghyfansoddiadol.

Dywedodd Gweinidog Tramor Sbaen, Alfonso Dastis, bod y trais yn “amhleserus” ac yn “anffodus” ond mynnodd ei fod “yn gymesur.”

“Os ydy pobol yn mynnu diystyru’r gyfraith ac yn gwneud rhywbeth sydd wedi cael ei alw’n anghyfreithlon dro ar ôl tro, rhaid i swyddogion gynnal y gyfraith,” meddai Alfonso Dastis.