Roedd degau o dractors ar strydoedd Barcelona ddydd Gwener wrth i ffermwyr ddatgan eu cefnogaeth i’r refferendwm annibyniaeth sydd i’w gynnal yng Nghatalwnia ddydd Sul.

Mae llywodraeth Sbaen yn dal i fynnu bod y refferendwm yn anghyfreithlon ac yn erbyn eu cyfansoddiad, a’r llysoedd a’r heddlu yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’w atal.

Roedd y ffermwyr yn cludo baneri ‘estelada’ i swyddfeydd llywodraeth Catalwnia, a nifer o brotestiadau tebyg yn cael eu cynnal mewn trefi eraill.

Yn ôl y ffermwyr, roedd y protestiadau’n rhan o’r frwydr am “ddemocratiaeth a rhyddid”.

Yn ôl Sbaen, er mwyn gwneud y refferendwm yn gyfansoddiadol, fe fyddai’n rhaid i agor i Sbaen gyfan.

Heddlu

Ar gais y llysoedd, mae’r heddlu wedi bod yn cynnal cyrchoedd er mwyn mynd â phapurau pleidleisio allan o swyddfeydd cynghorau lleol, ac wedi atal bocsys pleidleisio rhag mynd i orsafoedd pleidleisio.

Mae disgwyl i 2,300 o orsafoedd fod ar agor ar gyfer 5.3 miliwn o bleidleiswyr.

Ond mae llywodraeth Sbaen wedi beirniadu’r trefniadau, gan ddweud na fu ymgyrchu swyddogol na chofrestr bleidleisio.

Mae’r rhan fwyaf o brotestwyr ar y strydoedd o blaid cynnal y refferendwm, ond dim ond tua hanner o drigolion Catalwnia sydd o blaid annibyniaeth, yn ôl adroddiadau.

Mae llywodraeth Catalwnia wedi galw ar yr Undeb Ewropeaidd i gamu i mewn i ddatrys yr anghydfod rhyngddyn nhw a llywodraeth Sbaen.

Ond mae’r Undeb Ewropeaidd yn cefnogi galwad Sbaen ar i Gatalwnia barchu’r cyfansoddiad.