Llys y Goron Abertawe
Mae pedoffeil o Abertawe wnaeth ffoi ar ddiwrnod olaf ei dreial, wedi cael ei garcharu am 25 blynedd.

Ar ddydd Mawrth (Medi 26) gwnaeth rheithgor farnu David Hart, 60, yn euog o gyflawni 16 trosedd yn erbyn merch ifanc – gan gynnwys 12 cyhuddiad o drais.

Pan fethodd ag ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe, cafodd gwarant ei gyhoeddi am ei arestiad a chafodd ei ddal gan yr heddlu ar ddydd Iau (Medi 27).

Clywodd y llys ei fod wedi dechrau cam-drin y ferch pan oedd hi’n 11 blwydd oed, ac yn aml roedd y gamdriniaeth yn cael ei ddarlledu ar-lein.

Wrth ei ddedfryd ddydd Iau (Medi 29) dywedodd y barnwr: “Rwyt ti wedi difetha bywyd y ferch yna. Nid oes modd deall y modd wnes di ei thrin.”