Cyn-filwr sydd wedi ei ethol i olynu Paul Nuttall yn Arweinydd UKIP.

Fe gafodd Henry Boulton 3,874 o bleidleisiau yng nghynhadledd y blaid yn Torquay y prynhawn yma, er nad oedd ymysg y ffefrynnau i ddod yn Arweinydd.

Y disgwyl oedd mai gornest rhwng y Wyddeles wrth-Islam, Anne Marie Waters, a’r Aelod UKIP o Gynulliad Llundain, Peter Whittle, fyddai hi am yr arweinyddiaeth.

Yn gynharach y mis hwn fe rybuddiodd Henry Boulton bod UKIP mewn peryg o droi yn “UK Nazi Party” pe bai’r arweinydd anghywir yn cael ei ddewis.

Wrth annerch y gynhadledd wedi’r fuddugoliaeth, roedd yr Arweinydd newydd yn galw ar yr aelodau i gefnogi’r blaid.

“Heb undod, ni fedrwn arwain,” meddai.

Ers i Nigel Farage roi’r gorau i arwain UKIP, mae’r blaid wedi crafu byw – yn yr etholiad cyffredinol eleni fe gafodd 1.8% o’r bleidlais, o gymharu â 12.6% yn 2015.

Roedd Nigel Farage wrth ei fodd gyda buddugoliaeth Henry Bolton.

“Mae yn ddyn â gwaelod iddo,” meddai’r cyn-Arweinydd.