Marc Jones yw Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam
Ymgais i dynnu sylw oddi ar ffrae tros gyflogau cynghorwyr, yw ffrae Cyngor Wrecsam tros faneri.

Dyna ddywed Arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y cyngor sir.

Ond mae Arweinydd Cyngor Wrecsam yn dweud mai “nonsens” yw’r cyhuddiad ei fod yn trio tynnu sylw i ffwrdd o’r bleidlais cwtogi cyflogau.

Neithiwr fe bleidleisiodd cynghorwyr Wrecsam yn erbyn chwifio baner Cymru yn unig y tu allan i adeilad y Cyngor.

Roedd mwyafrif o blaid arddangos baner y ddraig Goch a Jac yr Undeb Law yn llaw trwy gydol y flwyddyn.

Yn sgil sylwadau “negatif” gan Arweinydd y Cyngor, Mark Pritchard, ynglŷn â methiant y cynnig ‘Baner Cymru yn unig’, mae Marc Jones o Blaid Cymru wedi mynnu bod sylw yn cael ei dynnu rhag mater dwysach.

Deflection ydy hyn yn llwyr,” meddai Arweinydd grŵp Plaid Cymru wrth golwg360.

“Y prif benderfyniad y gwnaethpwyd ar y noson oedd y ffaith bod y cynghorwyr sydd yn cael y cyflogau uwch wedi pleidleisio dros gadw eu cyflogau uwch. Mae’r busnes fflagiau jest yn ymgais ganddo fo i newid y pwnc.

“Roedd yna gyfle ar y noson i arbed £40,000 ar gyflogau cynghorwyr ac mae [Mark Pritchard] yn trio newid y pwnc achos dydy o ddim yn siwtio fo.”

Cyflogau

Pe bai cynghorwyr wedi cymeradwyo’r cynnig cwtogi cyflogau, mi fyddai tâl aelodau byrddau gweithredol Cyngor Wrecsam wedi syrthio o £29,100 i £26,200.

Byddai cyflogau dirprwy feiri a chadeiryddion pwyllgorau wedi eu cwtogi gan £2,000, ac mi fyddai cyflogau meiri wedi disgyn o £21,600 i £19,100.

Pleidleisiodd bron i ddau draean o gynghorwyr yn erbyn cwtogi cyflogau sawl rôl, gan gynnwys meiri a chadeiryddion pwyllgorau.

Yn ôl Marc Jones, gwnaeth cynghorwyr Plaid Cymru bleidleisio o blaid y cynnig, ac mae’n nodi fod canlyniad y bleidlais yn “gwbl warthus”.

“O’n i’n teimlo bod o’n gwbl anaddas bod cynghorwyr yn derbyn lefel uwch  o gyflog nag sydd ei angen,” meddai. “Ac, mae’n warthus bod cynghorwyr sy’n derbyn y cyflog yna wedi cael pleidleisio ar y peth. Mae’n gwbl warthus yn ystod cyfnod pan rydan ni yn tocio yn gyson.

“Mae’r syniad bod ni’n diogelu cyflogau cynghorwyr – alla’i ddim cyfiawnhau o. Cwestiwn diddorol iawn i bobol wnaeth pleidleisio o blaid y peth: sut gallan nhw gyfiawnhau torri pob peth ond am gyflogau eu hunain?”

“Nonsens”

Mae Mark Pritchard yn dweud mai “nonsens” yw’r cyhuddiad ei fod yn trio tynnu sylw i ffwrdd o’r bleidlais cwtogi cyflogau.

Mae’n nodi mai panel annibynnol sydd yn penderfynu lefelau cyflogau cynghorwyr, a’i fod wedi pleidleisio yn erbyn y mesur oherwydd nid yw’n credu dylai cynghorwyr ymyrryd â chyflogau.

“Dw i ddim yn credu y dylai aelodau sydd wedi’u hethol, fod yn penderfynu lefel cyflogau eu hunain,” meddai wrth golwg360.

O ran mater y baneri, mae Mark Pritchard yn dweud bod chwifio un faner heb y llall yn “annheg,” ac yn nodi ei fod yn “fwy na pharod” i gynnal dadl â Marc Jones mewn cyfarfod cyhoeddus. 

“Rydym ni’n Gymry ond rydym ni’n Brydeinig. Fel Teyrnas Unedig rydym wedi brwydro mewn rhyfeloedd gyda’n gilydd … Felly maen annheg i ddweud ‘beth am chwifio un faner ond nid y llall.’”