Mae un o drigolion Catalwnia wedi dweud wrth golwg360 fod Llywodraeth Sbaen “wedi mynd o’i chof” yn y ffordd y mae’n ymateb i’r refferendwm annibyniaeth sydd wedi’i drefnu ar Hydref 1.
Y ffrae ddydd Sadwrn rhwng Sbaen a Chatalwnia ynghylch pwy sy’n gyfrifol am heddlu Catalwnia yw’r diweddaraf mewn cyfres o gamau sydd yn eu lle gan Lywodraeth Sbaen i daro rhai o brif wasanaethau cyhoeddus Catalwnia.
Ond mae Llywodraeth Catalwnia yn mynnu y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal doed a ddêl, ac maen nhw’n gwrthod rhoi grym tros y Mossos d’Esquadra – neu’r heddlu – i Lywodraeth Sbaen.
Ddydd Mercher, daeth gorchymyn gan farnwr yn Sbaen y dylid arestio arweinwyr y refferendwm ac er eu bod nhw wedi cael eu rhyddhau ddydd Gwener, mae chwech ohonyn nhw’n dal yn destun ymchwiliad.
Er nad yw’r anghydfod rhwng Sbaen a Chatalwnia wedi troi’n dreisgar hyd yn hyn, mae’r potensial i hynny ddigwydd wedi cynyddu wrth i filoedd o drigolion Catalwnia ymgynnull ar y strydoedd i brotestio yn erbyn agwedd Llywodraeth Sbaen tuag atyn nhw.
‘Sefyllfa hollol wallgof’
Fe allai agwedd Llywodraeth Sbaen helpu Catalwnia i ennill annibyniaeth yn y pen draw, yn ôl Berta Gelabert Vilà, sydd wedi dychwelyd i Barcelona ers rhai blynyddoedd ar ôl bod yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe.
Dywedodd hi wrth golwg360: “Dw i ddim yn gwybod pa wybodaeth sy’n eich cyrraedd chi yng Nghymru, ond mae’r sefyllfa’n hollol wallgof yma.
“Mae Llywodraeth Sbaen wedi mynd o’i chof, ond dydy hynny ddim wir yn syndod, gan y byddan nhw’n gwneud unrhyw beth i atal y refferendwm.
“Os nad ydyn nhw wedi defnyddio trais eto, dydy hynny ddim ond oherwydd maen nhw’n gwybod y byddai’r ddelwedd ohonyn nhw’n waeth nag yw hi ar hyn o bryd.
“Mae pobol yn dweud bod Sbaen yn wlad ddemocrataidd, ond dydy hi ddim go iawn, mae hynny’n hollol glir erbyn hyn.”
‘Ofn… ond gobaith hefyd’
Er bod trigolion Catalwnia yn ofni’r hyn all ddigwydd yn y dyfodol, mae agwedd Sbaen hefyd yn cynnig gobaith, yn ôl Berta Gelabert Vilà.
Ychwanegodd: “Mae pobol Catalwnia – a rhai Sbaenwyr hefyd – wedi cael siom ac maen nhw’n grac iawn ynghylch sut mae Llywodraeth Sbaen yn ymdrin â’r sefyllfa.
“Ond a bod yn onest, i bobol sydd o blaid annibyniaeth, mae’r cyfan rywsut yn bositif oherwydd fe fydd pobol nad oedden nhw’n mynd i bleidleisio ‘Ie’ nawr yn mynd i bleidleisio ‘Ie’, dim ond oherwydd yr hyn sy’n digwydd yma.”
Cymorth yng Nghymru
Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu yng Nghymru i ddangos cefnogaeth i drigolion Catalwnia.
Fe fydd rali yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf (Medi 30) ac roedd rali yn Aberystwyth ddoe, lle siaradodd Llywydd y Cynulliad Elin Jones, oedd wedi anfon llythyr ar ran y Cynulliad yn ystod yr wythnos yn cynnig cefnogaeth i bobol Catalwnia.
Yn ôl Berta Gelabert Vilà, y cymorth mwyaf y gall pobol yng Nghymru ei roi i drigolion Catalwnia yw sicrhau bod y mater yn cael sylw yma.
“Dw i’n credu mai’r cymorth mwyaf fyddai troi’r mater hwn yn un rhyngwladol, siarad ac ysgrifennu amdano ac adrodd am y gwirionedd fod Sbaen eisiau cuddio rhag y cyhoedd.”