Mae 200 o gartrefi wedi’u difrodi ac un dyn ar goll, wedi i gorwynt daro rhannau o Mecsico.

Fe darodd Corwynt Max arfordir talaiath Guerrero ar lan y Mor Tawel ddydd Gwener.

Mae’r dyn sydd ar goll yn dod o dref San Marcos, i’r dwyrain o Acapulco, lle mae nifer o dai wedi’u difrodi gan wynt a glaw trwm.

Yn y cyfamser, mae storm drofannol Norma yn corddi, ar ei ffordd tua Los Cabos. Mae disgwyl iddi daro penrhyn Baja Califfornia yn hwyr ddydd Sul.