(Llun: PA)
Mae papur newydd wedi talu teyrnged i un o’i newyddiadurwyr wnaeth gael ei ladd gan grocodeil tra ar wyliau yn Sri Lanca.

Mae’n debyg fod y gohebydd, Paul McClean, wedi bod yn golchi ei ddwylo yn yr afon pan gafodd ei ymosod gan y creadur.

Roedd y dyn 24 oed yn gweithio i’r Financial Times, ac wedi bod yn aros â ffrindiau yn Nhŷ Gwyliau Traeth y Dwyrain ger Craig yr Eliffant.

“Torcalonnus”

Dywedodd staff y papur mewn datganiad bod ei farwolaeth drasig yn “dorcalonnus”.

“Cydymdeimlwn â’i deulu a’i ffrindiau,” meddai Rheolwr Olygydd y Financial Times, James Lamont. “Rydym mewn cysylltiad â nhw ac yn gwneud popeth y gallwn i’w helpu.”