Mae help ar y ffordd i’r ynysoedd sydd wedi cael eu taro gan gorwynt categori pump, gan eu rhoi mewn stad o argyfwng.
Ynysodd y Turks a Caicos yw’r diweddaraf i gael eu heffeithio wrth i Gorwynt Irma ruo drwy’r Caribî.
Ac mae ardaloedd sydd eisoes wedi cael eu taro yn paratoi ar gyfer difrod pellach posib wrth i ail storm deithio dros Fôr yr Iwerydd.
Mae cyflenwadau meddygol a chymorth arall yn cael eu hedfan o’r Deyrnas Unedig i’r ardaloedd gwaethaf yn dilyn addewid o £32 miliwn o gymorth gan Lywodraeth San Steffan.
Bellach mae Irma wedi cael ei hisraddio i gategori pedwar ond mae rhybuddion ei bod yn dal yn “beryglus iawn”, gan ladd o leia’ 14 o bobol hyd yn hyn.
Y disgwyl yw gwynt a glaw peryglus yn Ynysoedd y Turks a Caicos yfory, wrth i’r corwynt symud drwy’r Bahamas, tuag at dde Florida.
Dywed nad oes disgwyl i Gorwynt Jose, sydd ar gategori tri ar hyn o bryd, gyrraedd y tir yn uniongyrchol ond bod angen cadw llygad.
Mae llefarydd ar ran Thereaa May wedi wfftio beirniadaeth fod y Deyrnas Unedig y tu ôl i Ffrainc a’r Iseldiroedd wrth ofalu am eu tiriogaethau yng nghanol y corwynt.