Llys y Goron yr Wyddgrug
Mae cyn-reolwr cartref gofal i blant yn Llangollen yn y 1970au wedi gwadu iddo gam-drin plant yn rhywiol.
Mae Bryan Davies, 70, sydd erbyn hyn wedi ymddeol ac yn byw ym Melita, yn wynebu 38 o gyhuddiadau yn ymwneud â cham-drin 11 o blant.
Fel rhan o Ymgyrch Pallial i honiadau cam-drin hanesyddol yng ngogledd Cymru, cafodd Bryan Davies ei arestio ar ynys Gozo dan warant Ewropeaidd.
Ymddangosodd gerbron Llys y Goron y Wyddgrug heddiw gan wadu pob cyhuddiad yn ei erbyn.
Yn ôl yr honiadau, digwyddodd y rhan fwyaf o’r troseddau yn Neuadd Ystrad, Llangollen yn y 1970au pan oedd Bryan Davies yn ddirprwy brifathro.
Ond mae hefyd yn wynebu chwe chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant yn Sussex rhwng 2007 a 2013 a thri chyhuddiad o annog gweithgareddau rhyw ar-lein rhwng 2011 a 2012.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad yw’n ceisio gadael y wlad ac yn mynychu gorsaf yr heddlu yn Surrey dair gwaith yr wythnos.
Bydd yr achos, sydd i fod i bara pum wythnos, yn dechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.