Ers i Ŵyl Rhif 6 gael ei chynnal am y tro cyntaf yn 2012, mae un côr lleol wedi llwyddo i berfformio yno pob blwyddyn yn rheolaidd, trwy’r gwynt a’r glaw.

Mae Côr y Brythoniaid bellach yn rhan annatod o’r ŵyl – sydd wedi ei lleoli ym mhentref Portmeirion yng Ngwynedd – ac wedi profi adfywiad trwy gymryd rhan.  

Yn ôl eu hysgrifennydd, Phillip T. Jones mae’r ŵyl  wedi “agor drysau” i’r côr ac wedi eu cyflwyno i  gynulleidfaoedd newydd. 

“Mae’n fendigedig,” meddai Phillip T. Jones  wrth golwg360. “Mae’n brofiad gwych i fod yn onest. Mae yna bobol sydd yn dod i wrando arnom ni, fyddai ddim yn meiddio mynd i wrando ar gôr meibion yn canu.

“Dw i’n meddwl bod o wedi agor drysau gwahanol i ni. Rydan ni wedi bod yn Llundain yn canu yn GQ Man of the Year Awards, ac yn Covent Garden ar ei ôl o. Gwnaethom ni ganu gyda’r Pet Shop Boys.”

O nerth i nerth

Yn raddol mae presenoldeb y côr yn yr ŵyl wedi tyfu, a bellach mae ganddyn nhw dri slot  perfformio ar dri diwrnod gwahanol.

“I ddechrau roedden ni’n perfformio am rhyw ddeng munud i hanner awr achos mae côr meibion mewn gŵyl fel hyn yn step into the unknown,” meddai.

“Ond, roedd o mor boblogaidd fel ein bod ni’n tri chwarter awr bob noson rŵan. Hyd yn hyn rydym ni wedi cael cynulleidfa o 3,000 yn gwrando arnom ni, felly gobeithio bydd hi’r un fath heno.”

Caneuon pop

Yn perfformio caneuon pop gan fandiau o Anweledig i New Order mae’r côr wedi llwyddo chwalu ystrydebau yn ôl Phillip T. Jones.

“Mae llawer o bobol gydag argraff yn eu meddyliau am gorau meibion – bod nhw’n reit hen ffasiwn neu stuffy,” meddai.  “Ond, gan ein bod ni wedi canu pethau mwy modern, mae pobol yn meddwl ei fod yn wych. Rydan ni’n mwynhau’n fawr iawn.”

Eleni mae’r Ysgrifennydd yn nodi y byddan nhw’n perfformio cân gyfrinachol – cover o un o berfformwyr yr ŵyl – a does “gan neb syniad” pa gân fydd hi.