Mae yna gynllun newydd i geisio annog graddedigion o Gymru yn y sector Gwasanaethau Ariannol i ddychwelyd neu aros yn y wlad.

Dan y Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Ariannol Cymru, mae graddedigion yn cael eu hannog i ddilyn cwrs sy’n gallu arwain at waith gyda rhai o gwmnïau’r sector, sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Mae rhai o’r rhain yn cynnwys Admiral, Cyllid Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality a Hodge Bank.

Fforwm Gwasanaethau Ariannol Cymru sy’n rheoli’r cynllun a’r bwriad yw creu cronfa o dalent a fydd yn cefnogi cwmnïau’r sector yng Nghymru ac yn denu rhagor o fusnesau i ddod i’r wlad.

Ers ei lansio gyntaf yn 2013, mae’r rhaglen wedi recriwtio a datblygu mwy na 70 o raddedigion, gyda 95 y cant wedi llwyddo i gael swyddi parhaol gyda’r cwmnïau sy’n cymryd rhan.

Lansiodd Llywodraeth Cymru’r fersiwn gyntaf yn 2013 fel rhaglen beilot ac mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, sydd wedi rhoi £2.4 miliwn.

 “Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol diwydiant allweddol,” meddai Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford.

“Mae’n galonogol iawn clywed hanesion am lwyddiant graddedigion sydd eisoes yn gwneud eu marc yn y sector gwasanaethau ariannol ac rwy’n dymuno llwyddiant pellach yn y blynyddoedd i ddod i’r rhaglen ac i’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan”.

Dilyn gyrfa drwy’r Gymraeg yn ‘bwysig’

Un o’r rhai sy’n elwa ar y rhaglen eleni yw Briony Davies o Bontypridd ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Yma, yng Nghymru, y mae fy nghartref ac, fel siaradwr Cymraeg, rwy’n dyheu am allu defnyddio’r iaith gydol fy ngyrfa,” meddai.

“Erbyn hyn, rwy’n gallu magu profiad a gwybodaeth wrth weithio gydag amrywiaeth o gwmnïau ariannol gorau yng Nghymru ac, yr un pryd, astudio am radd Meistr wedi’i hariannu’n llawn.”