Mae merch y chwyldroadwr enwog Che Guevara yn dod i Gymru ym mis Tachwedd i siarad am sefyllfa Ciwba a bygythiad Donald Trump i’r wlad.
Bydd Aleida Guevara yn siarad mewn noson yn Ninbych sydd wedi’i threfnu gan fudiad Cymru-Ciwba, sy’n ymgyrchu i ddangos “solidariaeth â’r chwyldro Cubanaidd Cymru”.
Mae’r meddyg a’r Marcsydd 56 oed, sy’n dal i fyw yng Nghiwba, yn ymgyrchydd dros hawliau pobol dlawd ledled y byd.
Bu’r berthynas rhwng America a Chiwba yn fregus ers y Rhyfel Oer yn 1961, gyda chyfyngiadau economaidd a chyfyngiadau teithio yn cael eu gosod.
Er i Barack Obama geisio gwella’r berthynas, mae Donald Trump yn cefnogi cadw’r holl gyfyngiadau ac wedi dweud bod angen trechu Ciwba.