Mae naw o bobol wedi’u lladd a 16 wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad mewn pentref ar un o Ynysoedd y Ffilipinas.

Yn ôl swyddogion, fe wnaeth o leiaf 20 o ymladdwyr Abu Sayyaf ymosod gan losgi cartrefi ym mhentref Tubigan ar ynys Basilan.

Dywedodd y lluoedd arfog fod y llywodraeth wedi gyrru’r ymosodwyr oddi yno, a’u bod wedi’u “taro’n galed dros y penwythnos ac wedi dewis ymosod ar gymunedau yr oedden nhw’n gwybod nad oedd yn gefnogol ohonyn nhw”.

Mae grŵp yr Abu Sayyaf wedi’u pardduo gan yr Unol Daleithiau a’r Ffilipinas a’u galw’n “sefydliad brawychol”, ac mae rhai o’r Abu Sayyaf wedi pledio teyrngarwch i’r Wladwriaeth Islamaidd ac yn rhan o warchae ar ddinas Marawi lle mae mwy na 750 wedi marw.

Mae Arlywydd y Ffilipinas, Rodrigo Duterte, wedi gosod rhan ddeheuol y genedl o dan reolaeth filwrol i geisio mynd i’r afael ag argyfwng Marawi ac atal Abu Sayyaf a grwpiau eithafol eraill rhag cynnal ymosodiadau mawr.