Mae nifer y ffoaduriaid o Dde Swdan sy’n ceisio lloches yn Uganda wedi cynyddu i filiwn o bobol, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, gyda’r argyfwng yn tyfu ar raddfa heb ei debyg o’r blaen.
Dywed swyddogion yn Uganda eu bod nhw wedi’u llethu gan nifer y bobol sy’n dianc rhag rhyfel cartref De Swdan.
Mae asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi galw ar y gymuned ryngwladol i roi mwy er mwyn helpu’r bobol.
Ar gyfartaledd, mae tua 1,800 o ffoaduriaid De Swdan wedi bod yn cyrraedd Uganda bob dydd dros y 12 mis diwethaf, meddai’r asiantaeth.
Mae tua miliwn arall o bobol y wlad yn ceisio lloches yn y Swdan, Ethiopia, Cenia, Congo a Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
“Mae pobol sy’n cyrraedd yma yn siarad am drais barbaraidd, gydag adroddiadau am grwpiau yn llosgi tai i lawr sydd â phobol ynddynt, pobol yn cael eu lladd o flaen aelodau eu teulu, menywod a merched yn dioddef ymosodiadau rhywiol a bechgyn yn cael eu herwgipio a’u gorfodi i ymladd,” meddai datganiad y Cenhedloedd Unedig.
“Gyda ffoaduriaid yn dal i gyrraedd yn eu miloedd, mae’r cymorth rydym yn gallu darparu yn gynyddol brin.”
Diffyg arian
Er i Uganda ym mis Mehefin geisio codi’r ddau biliwn o ddoleri [£1.5bn] sydd ei angen, dim ond ffracsiwn o hynny gafodd ei godi.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae angen 674 miliwn o ddoleri [£523m] i gefnogi’r ffoaduriaid yn Uganda eleni, ond dim ond pumed o hynny sydd wedi’i dderbyn.
Mae angen yr arian i ddarparu gwasanaethau sylfaenol, sy’n cynnwys stocio clinigau â meddyginiaethau a sefydlu ysgolion.
Yn ôl asiantaethau, mae meintiau dosbarthiadau yn yr ysgolion sydd ar gael yn aml yn fwy na 200 o ddisgyblion.
Mae’r ymladd yn parhau yn Ne Swdan rhwng y llywodraeth a rebeliaid – mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod y ddwy ochr yn euog o lofruddio a threisio dinasyddion.