Arlywydd Venezuela, Nicolas Maduro
Mae dau o brif wrthwynebwyr Llywodraeth Venezuela wedi cael eu cipio o’u tai dros nos gan swyddogion gwasanaeth cudd y wlad.

Mae’n ymddangos mai hon yw cam cyntaf yr Arlywydd Nicolas Maduro, yn erbyn ei elynion ers pleidlais ddiweddar pan gafodd ei lywodraeth bwerau newydd.

Roedd y ddau unigolyn – cyn-Faer Caracas, Antonio Ledezma, ac Arweinydd yr Wrthblaid, Leopold Lopez – wedi rhoi fideos ar-lein yn beirniadu penderfyniad Nicolas Maduro i gynnal etholiad.

Cyn cael eu cipio, roedd y ddau eisoes wedi cael eu harestio a’u cyfyngu i’w cartrefi gan y wladwriaeth.

Ddydd Llun dywedodd Nicolas Maduro y byddai’n mynd ar ôl cyfres o elynion gan gynnwys  newyddiadurwyr annibynnol y wlad.

Mae’r Arlywydd hefyd yn honni bod milwyr arfog o Golombia wedi cael eu hanfon i Venezuela gan yr “Ymerawdwr Donald Trump,” ac wedi herio sancsiynau gan yr Unol Daleithiau.

Pwerau newydd

Mae canlyniad pleidlais ddydd Sul i gryfhau llywodraeth Venezuela wedi cael ei feirniadu gan nifer, ac mae polau piniwn yn awgrymu bod 85% o’r wlad yn ei gwrthwynebu.

Mae Nicolas Maduro wedi addo y bydd yn defnyddio ei bwerau newydd i atal ymgeiswyr y gwrthbleidiau rhag sefyll mewn etholiadau.