Cristiano Ronaldo
Mae’r pêl-droediwr, Cristiano Ronaldo, wedi ymddangos gerbron barnwr yn Sbaen fel rhan o ymchwiliad i gyhuddiadau o dwyll trethi.
Ym mis Mehefin mi wnaeth y pêl-droediwr 32 oed ei gyhuddo o bedwar cyhuddiad o dwyll treth gwerth £13.1 miliwn, rhwng 2011 a 2014.
Mae’r erlynydd gwladol wedi cyhuddo’r cyhuddo’r pêl-droediwr o Bortiwgal o ddefnyddio cwmnïau y tu allan i Sbaen i guddio’i incwm.
Yn ôl yr erlynydd mi enillodd Cristiano Ronaldo incwm gwerth £38.5 miliwn rhwng 2011-14, ac fe guddiodd swm helaeth o’r cyfoeth yma er mwyn osgoi talu trethi.
Nid yw’r cyhuddiadau yn ymwneud â chyflog ei glwb Real Madrid, ac mae Cristiano Ronaldo yn gwrthod y cyhuddiadau gan ddweud nad yw “erioed wedi trio osgoi talu trethi.”