Mae ymgyrch newydd i annog merched yng Nghymru i ymarfer corff wedi cael ei lansio gan fudiad Chwaraeon Cymru.
Trwy wefan ‘Sgwad Ni’ bydd pobol yn medru cofnodi gweithgareddau, cysylltu â threfnwyr ac annog menywod eraill i roi cynnig ar chwaraeon.
Daw’r lansiad yn sgil ymchwil sydd yn dangos bod llai o ferched yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu hamdden gorfforol o gymharu â dynion.
Dim ond 54% o ferched sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol dros y pedwar wythnos ddiwethaf o gymharu â 63% o ddynion.
Yn ôl yr ymchwil y prif ffactorau sydd yn rhwystro menywod rhag bod yn egnïol yw diffyg hyder, ofni cael eu barnu, ac ymdeimlad o ddiffyg gallu.
Creu cyfleoedd
“Nod y prosiect yw ceisio uno’r prosiectau a rhaglenni sydd o amgylch Cymru, i annog mwy o ferched a menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon,” meddai Swyddog Datblygu Chwaraeon, Chwaraeon Cymru, Kath Thomas wrth golwg360. “Rydym ni eisiau i fwy o ferched a menywod i fod yn egnïol ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau dydyn nhw ddim wedi gwneud o’r blaen.”
“Mae llawer o ferched a menywod yn teimlo fel bod nhw ddim yn ddigon da. Efallai bod llai o hyder gyda nhw. Maen nhw’n ofni cael eu barnu ac yn aml maen nhw eisiau rhywun i fynd [i weithgareddau chwaraeon] gyda nhw.”
“Rydym ni yn gobeithio, trwy Sgwad Ni ein bod ni’n gweld y cyfleoedd sydd ar gael mas yna. Ac os does dim cyfleoedd rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu cyfleoedd gwahanol. A hefyd beth sydd yn bwysig yw, nid chwaraeon traddodiadol yn unig yr ydym ni’n trafod.
“Rydym yn ymdrin ag unrhyw beth sydd yn annog merched a menywod i fod yn fwy egnïol. Falle bach o ffitrwydd, rhywbeth cymdeithasol, mynd am baned bach ar ôl cymryd rhan mewn hamdden gorfforol. Trio pethau gwahanol.”