Mae Gogledd Korea wedi cynnal prawf tanio ail daflegryn rhyng-gyfandirol, a deithiodd ymhellach ac yn uwch na’r cyntaf.
Dywed arbenigwyr milwrol bod rhannau helaeth o’r Unol Daleithiau, gan gynnwys Los Angeles a Chicago, o fewn cyrraedd arfau o’r fath.
Gan fod y taflegryn a gafodd ei danio ddoe wedi ei anelu’n uchel iawn, glaniodd yn y môr ychydig i’r gorllewin o Japan, ond cred gwyddonwyr y gallai fod wedi mynd cyn belled â 6500 o filltiroedd.
Mae llywodraeth America wedi bod mynegi pryder cynyddol wrth weld Gogledd Korea yn ymestyn ei grym milwrol fel hyn.
Nid yw’n glir, fodd bynnag, a fyddai’r taflegrau hyn yn gallu cludo arfau niwclear.
Mae’r arlywydd Donald Trump eisoes wedi rhybuddio na fyddai America’n caniatáu i Ogledd Korea ddatblygu taflegrau niwclear.