Jerwsalem
Mae miloedd o Balesteiniaid wedi bod yn dathlu ar y strydoedd yn Jerwsalem ar ôl i Israel symud bariau metal ger safle cysegredig yn dilyn protestiadau gan Fwslimiaid.

Dywedodd arweinwyr Mwslimaidd y byddan nhw’n penderfynu’n ddiweddarach heddiw p’un ai fydd addolwyr yn gallu dychwelyd i’r fan i weddïo.

Mae Israel yn gobeithio ei bod wedi dod â’r argyfwng i ben drwy gyfaddawdu, trwy dynnu larymau metal y tu allan i Fosg Al-Aqsa.

Dywed pennaeth y Pwyllgor Islamaidd, Ikrema Sabri, na fyddai pobol yn mynd yn ôl i’r mosg tan i Israel dynnu’r bariau a chamerâu newydd oddi ar yr adeilad, ar ôl i awdurdodau eu gosod nhw yna yn dilyn ymosodiad marwol.

Mae Ikrema Sabri wedi dweud bod angen gwneud mwy cyn i bethau dawelu.

Pwysau ar Israel

Bu trais yn yr ardal dydd Gwener diwethaf ar ôl i Israel gau y man sanctaidd, sy’n cael ei adnabod gan Fwslemiaid dan yr enw Haram al-Sharif – y Gysegrfan Aruchel – ac i Iddewon yn Fynydd y Deml.

Fe wnaeth Israel osod y mesurau diogelwch ar ddechrau’r mis ar ôl i ddau ddyn Arabaidd saethu dau heddwas yn farw o fewn y safle.

Mae’r Palisteiniaid yn dweud bod Israel yn ceisio cael mwy o reolaeth ar y safle.

Arweiniodd y broblem at rai o’r protestiadau gwaethaf ers blynyddoedd ac roedd posibilrwydd y gallai Israel gael ei dynnu i frwydr yn erbyn gwledydd Mwslemaidd eraill.

Dan bwysau aruthrol, dywed Israel y bydd yn tynnu’r larymau metal ac yn rhoi camerâu diogelwch yno yn lle, ond mae gwleidyddion Palesteinaidd wedi dweud nad yw hyn yn ddigon.

Mae’r mater yn dangos y ddrwgdybiaeth sydd rhwng Israel a Phalesteina dros y gysegrfan – sef y drydydd fan mwya’ sanctaidd yn Islam a’r un fwya’ gysegredig o fewn Iddewiaeth.