Sana'a, prifddinas Yemen (Llun: ai@ce CCA 2.0)
Mae bron i 80% o blant Yemen angen cymorth dyngarol, am fod system iechyd y wlad ar ei gliniau yn dilyn dwy flynedd o ryfel cartref.
Yn ol rhai o asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig, mae dwy filiwn o blant Yemen yn dioddef o ddiffyg maeth, ac mae hynny’n eu gwneud yn wan ac yn fwy tebygol o ddioddef o’r afiechyd cholera.
Mae’r wlad gyfan yn wynebu’r epidemig cholera mwyaf yn y byd ers blynyddoedd.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn galw ar y gymuned ryngwladol i roi mwy o gymorth i Yemen.
Cefndir y rhyfel cartref
Mae lluoedd dan arweiniad Sawdi Arabia wedi bod yn ymladd gwrthryfelwyr Shiaidd Houthi yn Yemen ers dwy flynedd, ac mae’r rhyfel wedi dinistrio strwythur y wlad. Mae wedi golygu bod dwr glân yn brin, yn ogystal â meddyginiaethau.
Yemen ydi gwlad dlotaf y byd Arabaidd.
Mae’r rhyfel cartref wedi lladd mwy na 10,000 o bobol gyffredin, wedi gorfodi mwy na thair miliwn o bobol o’u cartrefi, a gwthio Yemen at newyn.