Mae dyn wedi’i arestio mewn tref ar y ffin rhwng Sbaen a Moroco, wedi iddo ymosod ar blismon gyda chyllell.

Wrth iddo fynd am yr heddwas, fe waeddodd “Allahu Akbar”.

Fe ddigwyddodd hyn am 7.35yb amser lleol yn Beni Enzar, lle’r oedd cannoedd o bobol wedi ymgynnull er mwyn croesi’r ffin rhwng y ddwy wlad.

Y gred ydi fod y dyn arfog yn dod o Moroco, a’i fod wedi tynnu’r gyllell a gweiddi “Da yw Duw” yn Arabeg cyn ymosod.

Fe gafodd ei arestio’n syth bin gan swyddogion yr heddlu, ac mae’n parhau i gael ei holi mewn swyddfa heddlu.