Mae sefydliadau wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol adnoddau a digon o arian er mwyn ehangu.

Mae adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi heddiw gan grŵp a fu’n adolygu gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn argymell y dylai rôl y corff ym maes addysg gael ei ymestyn.

Ar hyn o bryd mae’r Coleg ond yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch, ac yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.

Angen “adnoddau teg”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn “cefnogi prif ergyd” yr adroddiad ond yn rhybuddio bod yn rhaid i’r Coleg dderbyn “adnoddau teg” er mwyn cyflawni’r gwaith.

“Cefnogwn brif ergyd yr adroddiad y dylai’r Coleg gael sicrwydd am ei ddyfodol a datblygu cyfrifoldeb dros addysg bellach ac addysg gyfrwng-Cymraeg yn y gweithle yn ogystal ag addysg uwch draddodiadol,” meddai’r aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis.

“Ond ni chaiff y potensial hwn ei wireddu heblaw am fod y Llywodraeth yn rhoi i’r Coleg ei hun, yr adnoddau teg i gyflawni’r gwaith.”

Mwy o arian

Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru (UCM) mae’n “hollbwysig” bod cyllid y Coleg yn cynyddu wrth iddo ehangu.

“Os bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn yr argymhelliad i ymestyn rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach a dysgu yn y gweithle, mae’n hollbwysig fod cyllido’r Coleg yn cynyddu’n gymesur hefyd,” meddai Llywydd UCM Cymru, Ellen Jones.

“Mae gan y Coleg Cymraeg waith pwysig iawn i’w wneud o ran datblygu darpariaeth gyfrwng-Cymraeg, felly mae’n anghenraid ei fod wedi’i gyllido’n briodol.”