Mae protestwyr gwrth-globaleiddio yn Hamburg wedi bod yn achosi terfysg am yr ail noson yn olynol, gan osod blocâd, dwyn o archfarchnadoedd ac ymosod ar yr heddlu.

Roedd y terfysgoedd yn ymosodol dros ben yn ardal Schanzenviertel, yn ôl yr heddlu.

Wrth i gannoedd o blismyn fynd i mewn i’r adeilad i’w harestio, ymosododd y protestwyr arnyn nhw â pholion haearn a choctêls Molotov.

Cafodd 13 o bobol eu harestio mewn un adeilad.

Roedd oddeutu 500 o bobol wedi dwyn o archfarchnadoedd a siopau lleol, a chafodd ceir eu rhoi ar dân, wrth i brotestwyr adeiladu blocâd gan ddefnyddio biniau sbwriel a beiciau.

G20

Mae arweinwyr y G20 wedi dod ynghyd yn yr Almaen i drafod materion byd-eang gan gynnwys brawychiaeth, newid hinsawdd a masnach.

Roedd y rhan fwyaf o bobol wedi protestio yn erbyn y cyfarfod mewn modd heddychlon, gan alw am ateb brys i newid hinsawdd a’r argyfwng ffoaduriaid.

Mae 114 o bobol wedi’u harestio dros y ddeuddydd diwethaf, a mwy na 200 o blismyn wedi’u hanafu ers nos Iau.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.