Mae 32 o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gludo cyffuriau a chuddio arian yn dilyn ymchwiliad yn yr Eidal, Sbaen a’r Almaen.
Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl yn Napoli, meddai Eurojust, asiantaeth sydd wedi’i lleoli yn yr Iseldiroedd ac sy’n cydlynu ymchwiliadau rhyngwladol yng ngwledydd Ewrop.
Mae Napoli yn gadarnle grŵp Camorra, sy’n debyg i’r Maffia.
Cafodd 14 o bobol eu harestio yn Barcelona – 10 o Eidalwyr, un o Chile, un o Golombia, un o Sbaen ac un o Feneswela. Cafodd nifer o adeiladau eu harchwilio, gan gynnwys storfeydd a bwytai.
Yn ôl Eurojust, anfonodd y rhai sydd wedi’u hamau o’r troseddau gryn dipyn o gocên a hash i’r Eidal, gan fuddsoddi’r arian mewn busnesau bwyd, gemwaith, ceir a phêl-droed.
Cafodd nifer o bobol eraill eu harestio yn yr Almaen a’r Eidal, a chafodd bron i dunnell o gyffuriau a phum miliwn Ewro eu cipio yn ystod cyrchoedd.