Mae pedair gwlad Arabaidd, sydd wedi torri cysylltiadau diplomyddol â Qatar, wedi danfon rhestr o orchmynion ati er mwyn ceisio dod â’r anghydfod i ben.

Mae’r rhestr yn cynnwys 13 gorchymyn yn galw ar Qatar i roi’r gorau i gefnogi Iran, ac yn galw ar y wlad i gau swyddfeydd y darlledwr Al-Jazeera.

Mae cymdogion Qatar – Bahrain, yr Aifft, Sawdi Arabia a’r Emiradau Arabaidd Unedig – hefyd yn gobeithio derbyn iawndal, ac am weld y wlad yn torri pob cysylltiad â grwpiau eithafol gan gynnwys Hezbollah, al Qaida a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae gan Qatar ddeg diwrnod i gydymffurfio â’r gorchmynion.