Mae lle i gredu bod pedwar o bobol – gan gynnwys tri o bobol o’r un teulu – wedi marw yn dilyn tswnami ar yr Ynys Las.
Maen nhw’n dal ar goll ar ôl y digwyddiad ym mhentref Nuugaatsiaq ar arfordir gorllewinol y wlad.
Dywedodd Prif Weinidog y wlad, Kim Kielsen mai “hwn yw’r peth gwaethaf allai fod wedi digwydd”.
Heddiw yw diwrnod cenedlaethol yr Ynys Las, ac mae baneri’r wlad yn cyhwfan ar hanner y mast.
Mae’r chwilio am y bobol sy’n dal ar goll wedi dod i ben am y tro oherwydd y tywydd, ond mae disgwyl i’r ymdrechion ail-ddechrau’n fuan.
Mae 40 o bobol eisoes wedi cael eu hachub o dirlithriad.