Llun: PA
Mae adroddiadau o blant yng Nghymru yn cael eu cam-drin yn emosiynol wedi treblu yng Nghymru o gymharu â saith mlynedd yn ôl, yn ôl ffigurau newydd.
Yn ôl adroddiad newydd gan yr NSPCC ers 2009/10 mae’r nifer o bobol sydd wedi cysylltu â’r elusen â phryderon am gamdriniaeth emosiynol, wedi cynyddu o 112 i 344 yn 2016/17.
Bu’n rhaid i’r elusen gyfeirio 500 o blant at yr heddlu a gwasanaethau gofal plant rhwng 2015 a 2017 oherwydd yr oedd yr achosion mor ddifrifol.
Mae’r NSPCC yn dweud y dylwn fod yn wyliadwrus o arwyddion fod plentyn yn cael ei gam-drin -ymddygiad gorbryderus neu ymosodol – ac yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfrannu at yr ymchwil.
“Ehangder y broblem”
“Mae’r cynnydd anferthol yn y nifer o bobol sydd yn adnabod ac adrodd camdriniaeth yn dangos fod pobol yn barod i weithredu,” meddai Des Mannion, Pennaeth NSPCC Cymru.
“Er hyn, mewn gwirionedd nid oes gennym ni syniad faint o blant yn y Deyrnas Unedig sydd yn dioddef. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fynd ati ar frys i gomisiynu arolwg fel bod gyda ni darlun llawn o ehangder y broblem.”
Cafodd arolwg diwethaf yr NSPCC ei gynnal yn 2009 ac, ers hynny, mae’r elusen hefyd yn nodi fod cynnydd wedi bod mewn adroddiadau o gam-drin ar y we a cham-drin rhywiol.