Fe fydd y Frenhines yn cyhoeddi rhaglen wleidyddol y Ceidwadwyr mewn araith heddiw, wrth i senedd San Steffan agor yn swyddogol.
Ond dyw hi’n dal ddim yn glir a fydd plaid y DUP yn cefnogi’r Llywodraeth er mwyn cael y maen i’r wal.
Mae disgwyl i’r rhaglen gynnwys sawl mesur fydd yn canolbwyntio ar Brexit, ac mae Downing Street wedi mynnu y bydd eu haddewidion maniffesto yn ymddangos yn yr araith.
Mae’r agoriad swyddogol eisoes wedi cael ei ohirio oherwydd na lwyddodd yr un blaid i ennill mwyafrif clir yn yr etholiad brys ar Fehefin 8, felly fydd y seremoni yn San Steffan heddiw ddim mor fawreddog â seremonïau’r gorffennol.
Hefyd mi fydd araith heddiw yn wahanol i’r arfer oherwydd mi fydd yn amlinellu rhaglen dwy flynedd – yn hytrach na blwyddyn – o hyd.
Dim dêl â’r DUP
Hyd yma, mae’r Ceidwadwyr wedi methu a sefydlu dêl â phlaid y DUP, felly nid yw’n glir os fydd y Llywodraeth yn medru diogelu cefnogaeth mwyafrif y senedd tuag at y rhaglen.
Er bod aelodau’r DUP wedi awgrymu nad ydyn nhw’n hapus â thrafodaethau’r ddêl, mae’n debygol caiff y rhaglen ei phasio hyd yn oed os na fydd eu haelodau seneddol yn cefnogi’r Llywodraeth.