Mae buwch wedi dianc o sioe wartheg yn Nenmarc gan anafu pedwar o blant a dau oedolyn.

Bu’n rhaid mynd â dau o’r plant i’r uned achosion brys agosaf, yn ôl yr heddlu yn Odense.

Fe gafodd y fuwch ei dal, ond nid cyn iddi sathru ar ben merch fach 11 mis oed ac ar ferch dwy oed.

Hefyd fe dorodd ferch saith oed ei choes, ac fe anafodd un ddynes 50 oed ei chefn.

Nid yw yn glir pa mor ddrwg yw anafiadau’r merched.

Roedd y plant wedi gadael ysgol leol i fynychu’r sioe wartheg yn Odense, sydd 105 o filltiroedd o Copenhagen, prifddinas Denmarc.