Donald Tusk
Nid oes “amser i’w wastraffu” wrth fynd ati i drafod Brexit, yn ôl Llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda’r trafodaethau Brexit i fod i gychwyn ym Mrwsel mewn rhyw ddeg diwrnod, dywedodd Donald Tusk fod yn rhaid mynd ati i’w cynnal ar unwaith, a hynny yn yr “hwyliau gorau posib”.

Fe fydd y neges honno yn pwyso yn drwm ar ysgwyddau Theresa May wrth iddo geisio arwain Llywodraeth leiafrifol.

Mewn llythyr i longyfarch  y Prif Weinidog yn sgîl ei hapwyntiad yn gynharach heddiw, dywedodd Donald Tusk hefyd fod y gofod o ddwy flynedd sydd ar gael i gynnal trafodaethau yn ôl gofynion Erthygl 50 yn golgyu nad oes dim amser i oedi.

Ei nod yn y trafodaethau yw sicrhau i ddinasyddion, busnesau a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd y “canlyniad lleiaf aflonydd” ar ôl Mawrth 2019.

“Dw i’n ymrwymedig i gadw cyswllt rheolaidd [gyda Theresa May] ar ein rhan ni, er mwyn cefnogi gwaith ein trafodwyr”, meddai Donald Tusk.